WAE+ Office Supplies
WAE+ Office Supplies
12/05/2013 - Last News Update: 19:13

Wales

Please note: this article is over 8 weeks old and may not reflect the current events in regards to this particular matter. Related links may not be up to date in regards to this news story.

Ian Brady 'yn datgelu lleoliad corff Keith Bennett' i ymwelydd o dde Cymru

Published: 17th Aug 2012 07:04:57

Galaxy Note £370

Cafodd dynes 49 oed ei harestio yn ne Cymru ar ôl i lofrudd ddatgelu manylion lleoliad corff bachgen 12 oed.

Mae'r heddlu ym Manceinion yn dweud bod y llofrudd Ian Brady wedi rhoi gwybodaeth i'r ddynes oedd yn ymweld ag o ynglŷn â lleoliad gweddillion un o'r plant y llofruddiodd.

Fe ddiflannodd Keith Bennett yn 1964.

Mae'r ddynes wedi ei harestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad a hynny ar amheuaeth o atal corff rhag cael ei gladdu.

Mae'r ddynes yn ymweld yn gyson â Brady sy'n cael ei gadw yn Ysbyty Meddwl Ashworth ger Lerpwl.

Cafodd Keith Bennett ei gipio gan Brady a Myra Hindley wrth iddo fynd i ymweld â'i fam-gu.

Dyw ei gordd erioed wedi ei ddarganfod.

Cafodd Brady ei garcharu yn 1966 ar ôl iddo fo a Hindley gipio, arteithio ag yna llofruddio pump o blant yn y 1960au cyn eu claddu yn Rhostir Saddleworth ger Manceinion.

Mae cyrff gweddill y plant, Lesley Ann Downey, 10 oed, John Kilbride, 12 oed, Edward Evans, 17 oed, Pauline Reade, 16 oed, eisoes wedi cael eu darganfod.

Fe wnaeth yr heddlu roi'r gorau i chwilio am weddillion Keith Bennett yn 2009 wrth i'r heddlu ddweud bod angen mwy o wybodaeth i ail gychwyn chwilio.

Mewn datganiad dywedodd Heddlu Manceinion eu bod wedi derbyn gwybodaeth ar Orffennaf 30 2012 "sy'n arwain swyddogion i gredu bod Brady wedi rhoi gwybodaeth am leoliad corff Keith Bennett i un o'i ymwelwyr hirdymor".

"Mae swyddogion wedi gwneud ymholiadau i gywirdeb yr adroddiad ac ers derbyn y wybodaeth eu bod wedi bod mewn cysylltiad agos ag Ysbyty Ashworth a theulu Keith.

"O ganlyniad cafodd warant ei gyhoeddi o dan y Ddeddf Heddlu a Thystiolaeth Droseddol ar gyfer Ysbyty Ashworth a chyfeiriad preifat yn ne Cymru.

"Mae dynes 49 oed wedi cael ei harestio yn ne Cymru ar amheuaeth o atal corff rhag cael ei gladdu yn gyfreithlon ac mae'n parhau yn y ddalfa wrth i'r heddlu ei chwestiynu.

"Mae'r gwaith o archwilio'r cyfeiriadau yn parhau."

Erbyn hyn mae Brady yn 74 oed ac mae wedi gwrthod bwyta ers 12 mlynedd.

Caiff ei fwydo trwy bibell erbyn hyn.

Bu farw Hindley yn 60 oed a hynny 10 mlynedd yn ôl.

Mae mam Keith Bennett, Winnie Johnson, 78 oed, wedi bod yn ymgyrchu am flynyddoedd i geisio dod o hyd i gorff ei mab.

Mae'r datblygiad yma yn sicr yn rhoi rhyw faint o obaith iddi.

Source:
BBC NewsExternal LinkShow Citation

Harvard Citation

BBC News, 2012. Ian Brady 'yn datgelu lleoliad corff Keith Bennett' i ymwelydd o dde Cymru. [Online] (Updated 17 Aug 2012)
Available at: http://www.manchesterwired.co.uk/news.php/1446723-Ian-Brady-yn-datgelu-lleoliad-corff-Keith-Bennett-i-ymwelydd-o-dde-Cymru [Accessed 12th May 2013]
blog comments powered by Disqus

Latest News

News In Other Categories


WAE+ Reviews